Pennill 1
Rwyf am fod yn deml ac am gadw drws
Byddwn i yn gwneud beth bynnag fynni Di
I fod wrth dy ymyl, Iôr
Yma codaf allor, gweiddi d’enw Di
Byddaf i yn rhoi beth bynnag fedraf roi
I godi tŷ o fawl
Corws
Fy awydd i yw bod yn noddfa
Yn un sy’n cario dy gwmni
Fy awydd i yw bod yn noddfa
Yn lle daw’r nefoedd at y ddaear
Pennill 2
Rwyf am fod yn deml ac am gadw drws
Byddwn i yn gwneud beth bynnag fynni Di
I fod wrth dy ymyl, Iôr
Yma codaf allor, gweiddi d’enw Di
Byddwn i yn rhoi beth bynnag fedraf roi
I godi tŷ o fawl
Corws
Pont (X2)
Na, daw dim cwsg i’m llygaid i
Nes mai yma fydd dy drigfan Di
Yma fydd dy drigfan Di
Tag
Yma fydd dy drigfan Di
Yma fydd dy drigfan Di
Nes mai yma fydd dy drigfan Di
Dyma fi
Corws
Diweddglo (X2)
Na, daw dim cwsg i’m llygaid i
Nes mai yma fydd dy drigfan Di
Yma fydd dy drigfan Di
Noddfa
Sanctuary (Emily Katherine Lindquist ac Isaac Gay)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© Watershed Music Group (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint