O am ddechrau blwyddyn newydd
gyda Duw mewn mawl a chân;
doed yn helaeth, helaeth arnom
ddylanwadau’r Ysbryd Glân:
bydded hon ymysg blynyddoedd
deau law yr uchel Dduw;
doed yr anadl ar y dyffryn
nes bod myrdd o’r meirw’n fyw.
Y mae hiraeth yn ein henaid
am ymweliad oddi fry
i gynhesu ein calonnau
at dy air ac at dy dŷ:
doed y gwlith a’r glaw ar Seion
yn gawodydd iraidd iawn;
dyro, Arglwydd, o orfoledd
iachawdwriaeth gras yn llawn.
JOSEPH EVANS, 1831-1904
(Caneuon Ffydd 90)