Gwawriodd blwyddyn newydd eto, o’th drugaredd, Arglwydd cu; llaw dy gariad heb ddiffygio hyd yn hyn a’n dygodd ni: cawsom gerdded yn ddiogel drwy beryglon blwyddyn faith; gwnaethost ti bob storm yn dawel oedd yn bygwth ar y daith. Dysg in fyw y flwyddyn yma yng ngoleuni clir dy groes, gad in dynnu at y […]
I Dduw y dechreuadau rhown fawl am ddalen lân, am hyder yn y galon ac ar y wefus, gân: awn rhagom i’r anwybod a’n pwys ar ddwyfol fraich; rho nerth am flwyddyn arall i bobun ddwyn ei faich. Ar sail ein doe a’n hechdoe y codwn deml ffydd, yn nosau ein gorffennol ni fethodd toriad […]
Nefol Dad, erglyw ein gweddi wrth wynebu’r flwyddyn hon, mae’n hamserau yn dy ofal, a’n helyntion ger dy fron; dyro brofi hedd dy gariad, doed a ddêl. Nefol Dad, er gwaetha’n blinder pan fo’r daith yn siomi’n bryd, ninnau’n amau dy ddaioni ac yn credu’n hofnau i gyd, dyro brofi hedd dy gariad, doed a […]
O am ddechrau blwyddyn newydd gyda Duw mewn mawl a chân; doed yn helaeth, helaeth arnom ddylanwadau’r Ysbryd Glân: bydded hon ymysg blynyddoedd deau law yr uchel Dduw; doed yr anadl ar y dyffryn nes bod myrdd o’r meirw’n fyw. Y mae hiraeth yn ein henaid am ymweliad oddi fry i gynhesu ein calonnau at […]
O Dduw a Llywydd oesau’r llawr, Preswylydd tragwyddoldeb mawr, ein ffordd a dreiglwn arnat ti: y flwyddyn hon, O arwain ni. Mae yn dy fendith di bob pryd ddigon ar gyfer eisiau’r byd; drwy’r niwl a’r haul, drwy’r tân a’r don, bendithia ni y flwyddyn hon. Na ad, O Dduw, i droeon oes wneud inni […]
Tad tragwyddoldeb, plygaf ger dy fron, ceisiaf dy fendith ddechrau’r flwyddyn hon; trwy blygion tywyll ei dyfodol hi, Arweinydd anffaeledig, arwain fi. Beth fydd fy rhan ar hyd ei misoedd maith? Nis gwn, fy Nuw; ni fynnwn wybod chwaith. Ai hyfryd ddydd, ai nos dymhestlog ddaw? Bodlon, os caf ymaflyd yn dy law. Ffydd, gobaith, […]
Ti sy’n llywio rhod yr amser ac yn creu pob newydd ddydd, gwrando, Iôr, ein deisyfiadau a chryfha yn awr ein ffydd: ynot y cawn oll fodolaeth, ti yw grym ein bywyd ni, ‘rwyt Greawdwr a Chynhaliwr, ystyr amser ydwyt ti. Maddau inni oll am gredu mai nyni sy’n cynnal byd a bod gwaith ein […]
Yn dy law y mae f’amserau, ti sy’n trefnu ‘nyddiau i gyd, ti yw lluniwr y cyfnodau, oesoedd a blynyddoedd byd; rho dy fendith ar y flwyddyn newydd hon. Yn dy law y mae f’amserau, oriau’r bore a’r prynhawn, ti sy’n rhoddi y tymhorau, amser hau a chasglu’r grawn; gad im dreulio oriau’r flwyddyn yn […]