O am deimlo cariad Iesu
yn ein tynnu at ei waith,
cariad cryf i gadw’i eiriau
nes in gyrraedd pen ein taith;
cariad fwrio ofnau allan,
drygau cedyrn rhagddo’n ffoi
fel na allo gallu’r fagddu
beri inni’n ôl i droi.
Ennyn ynom flam angerddol
o rywogaeth nefol dân
fel y gallom ddweud yn ebrwydd –
gwyddost bopeth, Arglwydd glân;
gwyddost ein bod ni’n dy garu,
O am fedru caru’n fwy,
caru fel trigolion gwynfyd,
caru’n hyfryd megis hwy.
GOMER, 1773-1825
(Caneuon Ffydd 733)
PowerPoint