O am nerth i ddilyn Iesu
yn ein gyrfa drwy y byd,
cadw’i air ac anrhydeddu
ei orchmynion glân i gyd;
dilyn Iesu,
dyma nefoedd teulu Duw.
Cafodd bedydd fawredd bythol
yn ei ymostyngiad llawn,
ninnau, ar ei air, yn wrol
ar ei ôl drwy’r dyfroedd awn;
dilyn Iesu,
dyma nefoedd teulu Duw.
Er bod rhiwiau serth i’w dringo,
gyda’i gariad i’n cryfhau
ysgafn yw ei faich i’w gario,
ysgafn, esmwyth yw yr iau;
dilyn Iesu,
dyma nefoedd teulu Duw.
Y mae llwybrau ei orchmynion,
er holl rwystrau’r anial du,
yn cyfeirio’r pererinion
i’r trigfannau dedwydd fry;
dilyn Iesu,
dyma nefoedd teulu Duw.
MEIGANT, 1851-99
(Caneuon Ffydd 647)
PowerPoint