Daeth Prynwr dynol-ryw yn fyw o’i fedd a disglair ddelw Duw yn harddu’i wedd; dymchwelodd deyrnas gaeth hen deyrn marwolaeth du: rhaid ydoedd rhoi rhyddhad i’n Ceidwad cu. Gwnaeth waith y cymod hedd mewn llwyredd llawn, mae’i feddrod gwag yn dweud ei wneud yn Iawn; trwy’r codi rhoes y Tad fawrhad ar Galfarî, a thorrodd […]
Drugarog Arglwydd da, drwy’n gyrfa i gyd yr un wyt ti’n parhau er beiau’r byd; dy ddoniau, ddydd i ddydd, ddaw inni’n rhydd a rhad, mor dyner atom ni wyt ti, ein Tad. Agori di dy law a daw bob dydd ryw newydd ddawn gryfha, berffeithia’n ffydd; y ddaear gân i gyd a hyfryd yw […]
Dyro inni dy arweiniad, Arglwydd, drwy yr oedfa hon; rho dy Ysbryd a’i ddylanwad i’n sancteiddio ger dy fron: nefoedd yw dedwydd fyw dan dy wenau di, O Dduw. Byw yng ngwên dy siriol ŵyneb ewyllysiwn yn y byd, a chael oesoedd tragwyddoldeb i fawrhau dy gariad drud; dyro i lawr, yma nawr, ernes o’r […]
O am nerth i ddilyn Iesu yn ein gyrfa drwy y byd, cadw’i air ac anrhydeddu ei orchmynion glân i gyd; dilyn Iesu, dyma nefoedd teulu Duw. Cafodd bedydd fawredd bythol yn ei ymostyngiad llawn, ninnau, ar ei air, yn wrol ar ei ôl drwy’r dyfroedd awn; dilyn Iesu, dyma nefoedd teulu Duw. Er bod […]
Ti yr hwn sy’n gwrando gweddi, atat ti y daw pob cnawd; llef yr isel ni ddirmygi, clywi ocheneidiau’r tlawd: dy drugaredd sy’n cofleidio’r ddaear faith. Minnau blygaf yn grynedig wrth dy orsedd rasol di, gyda hyder gostyngedig yn haeddiannau Calfarî: dyma sylfaen holl obeithion euog fyd. Hysbys wyt o’m holl anghenion cyn eu traethu […]