O! Arglwydd , clyw fy llef,
‘Rwy’n addef wrth dy draed
Im fynych wrthod Iesu cu,
Dirmygu gwerth ei waed.
Ond gobaith f’enaid gwan,
Wrth nesu dan fy mhwn,
Yw haeddiant mawr yr aberth drud;
Fy mywyd sydd yn hwn.
A thrwy ei angau drud
Gall pawb o’r byd gael byw:
Am hyn anturiaf at ei draed-
Fy annwyl Geidwad yw.
Ni wrthyd neb a ddaw,
Ei air sydd yn ddi-lyth:
Er symud o’r mynyddoedd draw,
Saif ei gyfamod byth.
Charles Wesley, cyf. John Bryan (1770-1856)
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 07)
PowerPoint
Datganiad Hawlfraint
Mae gobaith.org yn darparu'r ffeiliau PowerPoint hyn o gyfieithiadau o ganeuon mawl Saesneg fel gwasanaeth rhad ac am ddim, ond amddiffynnir yr holl ganeuon gan ddeddf hawlfraint. Gall deiliaid Trwydded Hawlfraint Eglwysi lawrlwytho ac atgynhyrchu geiriau'r caneuon hyn yn unol ag amodau eu trwydded, a dylent gynnwys pob cân a ddefnyddir yn eu hadroddiad defnydd o ganeuon blynyddol. Os nad oes trwydded hawlfraint gennych bydd rhaid derbyn caniatâd gan berchennog pob cân y dymunwch ei lawrlwytho a/neu ei hatgynhyrchu. Am fanylion pellach am y Drwydded Hawlfraint Eglwysi ewch i www.ccli.com neu ffoniwch 01323 436103.