O Arglwydd grasol, trugarha
a symud bla y gwledydd,
darostwng falchder calon dyn
a nwydau’r blin orthrymydd;
a dysg genhedloedd byd o’r bron
i rodio’n isel ger dy fron,
Iôr union, bydd arweinydd.
Mae’r nos yn ddu, a ninnau ‘mhell,
a throm yw’r fflangell arnom;
crwydrasom i’r anialwch maith
a’th gyfraith wrthodasom;
O Arglwydd, maddau inni cyd
gymylu d’enw ‘ngŵydd y byd,
a dod dy Ysbryd ynom.
Aed golau’r groes a’r nefol ddydd
drwy wledydd daear lydan,
a phrofer rhin Efengyl wiw
yn allu Duw ei hunan;
doed holl genhedloedd daear las
i gyd-ddyrchafu baner gras
a dymchwel teyrnas Satan.
J. T. JOB, 1867-1938
(Caneuon Ffydd 855)
PowerPoint