O Dduw, ein craig a’n noddfa,
rho nawdd i’r gwan a’r tlawd
er mwyn dy annwyl Iesu
a anwyd inni’n Frawd;
darostwng bob gormeswr
sy’n mathru hawliau dyn,
ac achub y trueiniaid
a grewyd ar dy lun.
Creawdwr cyrrau’r ddaear,
Tad holl genhedloedd byd,
cymoda di â’th gariad
deyrnasoedd dyn ynghyd;
gwasgara’r rhai rhyfelgar
sy’n hoffi trin y cledd,
a boed i fwyn frawdgarwch
gyfannu’r byd mewn hedd.
O Dduw, fy Ngheidwad innau,
rho d’Ysbryd imi nawr
yn ysbryd o wasanaeth
yng ngrym dy gariad mawr;
ti feddyg clwyfau dynion,
rho imi ddwyn y groes,
a llwyr gysegru ‘mywyd
i leddfu dynol loes.
D. MIALL EDWARDS, 1873-1941
(Caneuon Ffydd 830)
PowerPoint