logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O! dysg im, dirion Dad

O! dysg im, dirion Dad,
Fy ngweddi fach a’m cân;
Gwna fi yn well o ddydd i ddydd
Dan rin dy fendith lân.

Dy blentyn carwn fod,
O! gwrando ar fy nghri;
Dan wên yr haul, yn niwl y nos,
Bydd di yn Dad i mi.

O! rho yn awr i mi
Dy fendith lawn o swyn;
A boed i’m calon lawenhau
Mewn cariad, er dy fwyn.

Gad imi weld dy wawr,
Fy Iesu, clyw fy llef;
O! cymer fi i’th dirion law
I rodio ffordd y nef.

Gwilym R. Jones, 1875-1953, cyf. AMANWY (David Rees Griffiths), 1882-1953 © Rhys a Rhodri Davies, Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Atodiad y Methodistiaid Calfinaidd: 942)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 18, 2016