O faban glân, O faban mwyn,
mor hardd dy wedd, mor ŵyl dy drem:
o’r nef fe ddaethost inni’n Frawd,
â ni yn gydradd, ddynion tlawd,
O faban glân, O faban mwyn.
O faban glân, O faban mwyn,
llawn o’th lawenydd yw ein byd:
cysuron nef a roddi di
bawb mewn poen a gyfyd gri,
O faban glân, O faban mwyn.
O faban glân, O faban mwyn,
mor brydferth yw dy gariad pur:
rho inni fflam dy gariad di
yn danbaid lewych ynom ni,
O faban glân, O faban mwyn.
O faban glân, O faban mwyn,
dod gymorth in i wneud dy waith:
ti piau’n holl feddiannau ni
boed ein teyrngarwch fyth i ti,
O faban glân, O faban mwyn.
Priodolir i VALENTIN THILO, 1607-62 cyf. PERCY DEARMER, 1867-1936 a W. D. WILLIAMS, 1900-85 © geiriau Cymraeg Iolo Wyn Williams. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 478)
PowerPoint