logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O fy enaid gorfoledda

O! fy enaid gorfoledda,
Er mai tristwch sy yma’n llawn;
Edrych dros y bryniau mawrion
I’r ardaloedd hyfryd iawn:
Uwch tymhorol
Feddiant mae fy nhrysor drud.

Gwêl tu hwnt i fyrdd o oesoedd,
Gwêl hapusrwydd maith y nef
Edrych ddengmil eto ‘mhellach,
Digyfnewid byth yw ef;
Tragwyddoldeb,
Hwn sy’n eiddof fi fy hun.

Anfeidroldeb maith ei hunan
Sydd yn awr yn eiddof fi;
Yn rhad y cadd ei roddi imi
Draw ar fynydd Calfari:
Tyrd yn fuan,
Hyfryd haf o berffaith hedd.

Nid oes terfyn ar fy ngobaith,
Cyrraedd mae ymlaen o hyd;
Gyda’r Duwdod mae’n cydredeg,
Dyddiau’r ddau sydd un ynghyd:
Annherfynol
Ydyw fy llawenydd mwy.

William Williams, Pantycelyn

Y Llawlyfr Moliant Newydd: 519

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 29, 2015