O gorfoleddwn oll yn awr,
daeth golau’r nef i nos y llawr;
mae’r Gŵr a ddrylliodd rym y bedd
yn rhodio’n rhydd ar newydd wedd:
rhown fawl ar gân i’r uchel Dduw,
mae Crist ein Pasg o hyd yn fyw.
Nid arglwyddiaetha angau mwy
ar deulu’r ffydd, gwaredir hwy;
y blaenffrwyth hardd yw Mab y Dyn,
mae’r bywyd ynddo ef ei hun:
rhown fawl ar gân i’r uchel Dduw,
mae Crist ein Pasg o hyd yn fyw.
O cadwn ŵyl, mae’r aberth drud
yn iachawdwriaeth i’r holl fyd;
mae’r lefain newydd wedi’i roi,
a grym y gwir yn ddi-osgoi:
rhown fawl ar gân i’r uchel Dduw,
mae Crist ein Pasg o hyd yn fyw.
Os meirw oeddem, weiniaid trist,
bywheir ni oll yn Iesu Grist;
mor wynfydedig fydd ein braint,
cael etifeddiaeth gyda’r saint:
rhown fawl ar gân i’r uchel Dduw,
mae Crist ein Pasg o hyd yn fyw.
W. RHYS NICHOLAS, 1914-96 © Richard E. Huws
(Caneuon Ffydd: 557)
PowerPoint