O! Iachawdwr pechaduriaid,
Sydd â’r gallu yn dy law;
Rho oleuni, hwylia f’enaid,
Dros y cefnfor garw draw;
Gad i’r wawr fod rhag fy wyneb,
Rho fy enaid llesg yn rhydd,
Nes i’r heulwen ddisglair godi,
Tywys fi wrth y seren ddydd.
O! ynfydrwydd, O! ffolineb,
Im erioed oedd rhoi fy mryd,
Ar un tegan, ar un gwrthrych,
Welais eto yn y byd;
Y mae’r byd yn myned heibio,
A’i deganau o bob rhyw,
Tan y nef ni thâl ei garu,
Wrthrych arall ond fy Nuw.
William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 582)