O Iesu mawr, y Meddyg gwell
gobaith yr holl ynysoedd pell,
dysg imi seinio i maes dy glod
mai digyfnewid wyt erioed.
O hoelia ‘meddwl, ddydd a nos,
crwydredig, wrth dy nefol groes,
a phlanna f’ysbryd yn y tir
sy’n llifo o lawenydd pur:
fel bo fy nwydau drwg yn lân
yn cael eu difa â’r nefol dân,
a chariad yn melysu’r groes
drwy olwg ar dy farwol loes.
Ti fuost farw, rhyfedd yw,
er mwyn cael o’th elynion fyw;
derbyn i’th gôl, a rho ryddhad
i’r sawl a brynaist ti â’th waed.
Fe gaiff dy enw annwyl glod
pan ddarffo i’r nef a’r ddaear fod,
am achub un mor wael ei lun
na allsai’i achub ond dy hun.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 306; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 150)
PowerPoint