O Iesu, y ffordd ddigyfnewid
a gobaith pererin di-hedd,
O tyn ni yn gadarn hyd atat
i ymyl diogelwch dy wedd;
dilea ein serch at y llwybrau
a’n gwnaeth yn siomedig a blin,
ac arwain ein henaid i’th geisio,
y ffordd anghymharol ei rhin.
O lesu’r gwirionedd anfeidrol,
tydi sydd yn haeddu mawrhad,
O gwared ni’n llwyr o’r anwiredd
sy’n gosod ar fywyd sarhad;
lladd ynom y blas at y geiriau
sy’n twyllo’r daearol ei fryd,
a derbyn ein moliant am olud
gwirionedd sy’n achub y byd.
O Iesu, y bywyd tragwyddol,
ffynhonnell y nerth sy’n parhau,
rho inni dy weld yn dy allu
yn gwneud i eneidiau fywhau;
mae ynot ddiderfyn rasusau
sy’n drech na gelyniaeth y byd:
moliannwn wrth gofio am fyjwyd
sy’n ras a thrugaredd i gyd.
W. RHYS NICHOLAS, 1914-96 © Richard E. Huws
(Caneuon Ffydd: 342)
PowerPoint