[Pennill 1]
O Iôr, fy Nghraig a fy Ngwaredwr
Trysor mwyaf i fy enaid sych
Fy Nuw, i Ti does neb yn debyg
Ynot Ti yn unig mae mwynhad
Dy ras, rhy ddwfn i ni ei blymio
Dy serch, helaethach yw na’r nef
Gwirionedd, ffynnon pob doethineb
F’angen di-ddiwedd a fy ngorau i
[Pennill 2]
O Iôr, fy Nghraig a fy Ngwaredwr
Amddiffynnwr cryf fy nghalon wan
Fy nghledd i frwydro gyda’r twyllwr
’Nharian i o flaen ei saethau cas
Fy nghân, â’r gelyn o fy nghwmpas
Fy ngobaith, pan gofidiau ddaw
Llawenydd, pan y cwyd treialon
A Dy ffyddlondeb, noddfa yn y nos
[Pennill 3]
O Iôr, fy Nghraig a fy Ngwaredwr
Prynwr graslon ’mywyd sydd ar chwâl
Fy mai a’m croes roed ar dy ysgwydd
Dioddef, gwaedu, marw yn fy lle
Cyfodaist, trechwyd bedd ac angau
Gan chwalu rhwymau gwarth a bai
O Iôr, fy Nghraig a fy Ngwaredwr
Boed i fy nyddiau oll roi clod i Ti
Boed i fy nyddiau oll roi clod i Ti
O Iôr, fy Nghraig a fy Ngwaredwr
O Lord, my Rock and my Redeemer (Nathan Stiff)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© 2017 Sovereign Grace Worship (Gwein. gan Integrity Music)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint