O llanwa hwyliau d’Eglwys
yn gadarn yn y gwynt
sydd heddiw o Galfaria
yn chwythu’n gynt a chynt:
mae’r morwyr yma’n barod
a’r Capten wrth y llyw,
a’r llong ar fyr i hwylio
ar lanw Ysbryd Duw.
O cadw’r criw yn ffyddlon
a’r cwrs yn union syth
ar gerrynt gair y bywyd
na wna ddiffygio byth:
rho ddwylo wrth y badau
yn barod at y gwaith
o ddwyn y rhai sy’n boddi
i uno ar y daith.
Agora ffordd drwy’r tonnau
pa bynnag storm a ddaw,
gwasgara’r niwl nes gwelwn
oleudy’r ochor draw:
mae’r llanw’n uwch na’r creigiau
a’r sianel ddofn yn glir
nes down i’r harbwr tawel
rhwng traethau aur y tir.
SIÔN ALED (©Siôn Aled, defnyddiwyd drwy ganiatâd)
(Caneuon Ffydd 615)
PowerPoint