O! na bai cystuddiau f’Arglwydd
Yn fy nghalon yn cael lle –
Pob rhyw loes, a phob rhyw ddolur,
Pob rhyw fflangell gafodd E’;
Fel bo i’m pechod
Ildio’r dydd a mynd i maes.
Ti dy Hunan yno’n Frenin,
Ti dy Hunan yno’n Dduw,
D’eiriau d’Hunan yno’n uchaf-
D’eiriau gwerthfawroca’u rhyw;
Ti wnei felly
Bydew du yn demel lân.
Yno gwna dy drigfan hyfryd –
Trigfan croeshoeliedig Oen,
Ac na chilia i maes oddi yno
Tra bo anadl yn fy ffroen,
Rhag i’m pechod
Ffiaidd geisio dod yn ôl.
O! sgrifenna’n eglur, eglur,
Mewn llythrennau llawn i gyd,
Bob rhyw sillaf bach o’th gyfraith
Ar fy mynwes yma ‘nghyd,
Nac anghofiwyf
Fyth dy eiriau mawr eu pris.
William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 515)
PowerPoint