O nefol addfwyn Oen,
sy’n llawer gwell na’r byd,
a lluoedd maith y nef
yn rhedeg arno’u bryd,
dy ddawn a’th ras a’th gariad drud
sy’n llanw’r nef, yn llanw’r byd.
Noddfa pechadur trist
dan bob drylliedig friw
a phwys euogrwydd llym
yn unig yw fy Nuw;
‘does enw i’w gael o dan y nef
yn unig ond ei enw ef.
Ymgrymed pawb i lawr
i enw’r addfwyn Oen,
yr enw mwyaf mawr
erioed a glywyd sôn:
y clod, y mawl, y parch a’r bri
fo byth i enw’n Harglwydd ni.
WILLIAM WILLIAMS 1717-91
(Caneuon Ffydd 312; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 241)
PowerPoint