O tyrd ar frys, Iachawdwr mawr,
disgynned d’Ysbryd yma i lawr;
rho nerth i bawb o deulu’r Tad
gydgerdded tua’r hyfryd wlad.
Cyd-fynd o hyd dan ganu ‘mlaen,
cyd-ddioddef yn y dŵr a’r tân,
cydgario’r groes, cydlawenhau,
a chydgystuddio dan bob gwae.
Duw, tyrd â’th saint o dan y ne’,
o eitha’r dwyrain pell i’r de,
i fod yn dlawd, i fod yn un,
yn ddedwydd ynot ti dy hun.
Un llais, un sŵn, un enw pur
o’r gogledd fo i’r dwyrain dir,
o fôr i fôr, o gylch y byd,
sef enw Iesu oll i gyd.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 241)