O! Tyred addfwyn Oen,
Iachawdwr dynol-ryw,
At wael bechadur sydd dan boen
Ac ofnau’n byw;
O! helpa’r llesg yn awr
I ddringo o’r llawr yn hy,
Dros greigiau geirwon serth, i’r lan
I’r Ganaan fry.
O! Dal fi, ‘rwyf heb rym,
Yr ochor hon na thraw;
Os sefyll wnaf, ni safaf ddim
Ond yn dy law:
Addewid nefoedd faith
Yw ‘nghymorth perffaith gwir
Na chyfeiliornaf ar fy nhaith
I Salem bur.
Yn eithaf grym y dŵr,
A’r tonnau’n curo i lawr,
Tywysog nefoedd yw fy nhŵr,
A’m Ceidwad mawr;
Fe ddeil fy mhen i’r lan,
Cans ffrind i’r gwan yw Ef;
Fe’m dwg o’m cystudd yn y man
I Deyrnas Nef.
William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 275)
PowerPoint