O tyred, Arglwydd mawr,
dihidla o’r nef i lawr
gawodydd pur,
fel byddo’r egin grawn,
foreddydd a phrynhawn,
yn tarddu’n beraidd iawn
o’r anial dir.
Mae peraroglau gras
yn taenu o gylch i maes
awelon hedd;
estroniaid sydd yn dod
o’r pellter eitha’ ‘rioed,
i gwympo wrth dy droed
a gweld dy wedd.
Mae tegwch d’ŵyneb-pryd
yn maeddu oll i gyd
sy ar ddaear las;
mae pob rhyw nefol ddawn
oll yno’n gryno lawn,
yn tarddu’n hyfryd iawn
o’th glwyfau i maes.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 364; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 224)
PowerPoint