logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O tyred i’n gwaredu, Iesu da

O tyred i’n gwaredu, Iesu da,
fel cynt y daethost ar dy newydd wedd,
a’r drysau ‘nghau, at rai dan ofnus bla,
a’u cadarnhau â nerthol air dy hedd:
llefara dy dangnefedd yma nawr
a dangos inni greithiau d’aberth mawr.

Yn d’aberth di mae’n gobaith ni o hyd,
ni ddaw o’r ddaear ond llonyddwch brau;
o hen gaethiwed barn rhyfeloedd byd
hiraethwn am y cymod sy’n rhyddhau:
tydi, Gyfryngwr byw rhwng Duw a dyn,
rho yn ein calon ras i fyw’n gytûn.

Cyd-fyw’n gytûn fel brodyr fyddo’n rhan,
a’th gariad yn ein cynnal drwy ein hoes;
na foed i’r arfog cry’ orthrymu’r gwan,
ac na bo grym i ni ond grym y groes:
rhag gwae y dilyw tân, O trugarha
a thyred i’n gwaredu, Iesu da.

JOHN ROBERTS, 1910-84 © Judith Huws. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 375)

PowerPoint Gwrando