O! Ysbryd sancteiddiolaf,
Anadla arna’ i lawr
O’r cariad anchwiliadwy
Sy ‘nghalon Iesu mawr;
Trwy haeddiant Oen Calfaria,
Ac yn ei glwyfau rhad,
‘Rwy’n disgwyl pob rhyw ronyn
O burdeb gan fy Nhad.
O! Ysbryd pur nefolaidd,
Cyn elwy’ i lawr i’r bedd,
Trwy ryw athrawiaeth hyfryd,
Gad imi brofi o’th hedd:
Maddeuant, O! maddeuant,
Maddeuant cyfan rhad,
Yw’r cyntaf peth a geisiaf
Yr awron yn y gwaed.
William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 319)
PowerPoint