Odlau tyner engyl
o’r ffurfafen glir,
mwyn furmuron cariad
hidlant dros y tir:
yn y nef gogoniant,
hedd i ddynol-ryw;
ganwyd heddiw Geidwad,
Crist yr Arglwydd yw!
Yn y nef gogoniant,
hedd i ddynol-ryw;
ganwyd heddiw Geidwad,
Crist yr Arglwydd yw!
Doethion gwylaidd ddaethant
gyda’i seren ef,
holant yn addolgar
ble mae Brenin nef?
Saif y seren nefol
uwch y tlotaf grud;
acw yn y preseb
mae Iachawdwr byd.
Dros gopâu yr oesau
tonni mae y gân;
seinia rhwng mynyddoedd
annwyl Cymru lân:
esgyn mae’r gogoniant,
cylcha’r orsedd fry;
Disgyn mae’r tangnefedd,
‘wyllys da i ni.
J. M. HOWELL, 1855-1927
(Caneuon Ffydd 462)
PowerPoint