logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O’m blaen mi welaf ddrws agored

O’m blaen mi welaf ddrws agored,
a modd i hollol gario’r maes,
yng ngrym y rhoddion a dderbyniodd
yr hwn gymerodd agwedd gwas;
mae’r t’wysogaethau wedi’u hysbeilio
a’r awdurdodau ganddo ynghyd,
a’r carcharwr yn y carchar
drwy rinwedd ei ddioddefaint drud.

Fy enaid trist, wrth gofio’r frwydyr,
yn llamu o lawenydd sydd,
gweld y ddeddf yn anrhydeddus
a’i throseddwyr mawr yn rhydd;
rhoi awdur bywyd i farwolaeth
a chladdu’r atgyfodiad mawr,
dwyn i mewn dragwyddol heddwch
rhwng nef y nef a daear lawr.

Digon mewn llifeiriant dyfroedd,
digon yn y fflamau tân,
O am bara i lynu wrtho,
para byth yn ddiwahân:
ar ddryslyd lwybrau tir yr anial
y mae gelynion fwy na rhi’;
rho gymdeithas dioddefiadau
gwerthfawr angau Calfarî.

ANN GRIFFITHS, 1776-1805

(Caneuon Ffydd 337)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015