O’r fath newid rhyfeddol a wnaed ynof fi,
daeth Iesu i’m calon i fyw;
torrodd gwawr ar fy enaid, atebwyd fy nghri,
daeth Iesu i’m calon i fyw.
Daeth Iesu i’m calon i fyw,
daeth Iesu i’m calon i fyw,
cwyd llawenydd fy mron megis ton ar ôl ton,
daeth Iesu i’m calon i fyw.
O’m holl lwybrau afradlon dychwelwyd fy nhraed,
daeth Iesu i’m calon i fyw;
ac fe olchwyd fy meiau di-rif yn ei waed,
daeth Iesu i’m calon i fyw.
Y mae gobaith fy enaid yn ddiogel yn awr,
daeth Iesu i’m calon i fyw;
ac fe chwalwyd pob cwmwl, mae’r ffordd fel y wawr,
daeth Iesu i’m calon i fyw.
Collodd angau ei fraw, y mae golau’n y glyn,
daeth Iesu i’m calon i fyw;
y mae’r llwybyr i’r ddinas dragwyddol yn wyn,
daeth Iesu i’m calon i fyw.
R. H. McDANIEL, 1850-1940 (What a wonderful change in my life has been wrought)
cyf. NANTLAIS, 1874-1959 (© Yr Athro S. Nantlais Williams. Defnyddir drwy ganiatâd.)
(Caneuon Ffydd 797)
PowerPoint