Orchfygwr angau, henffych well!
Pan ddrylliaist byrth y bedd
ar ofnau dynion torrodd gwawr,
anadlodd awel hedd.
Gan iti ennill mwy na’r byd
yn rhodd i’th annwyl rai,
ym mhebyll Seion pâr yn awr
i filoedd lawenhau.
Rho heddiw i rai ofnus, hedd;
y llwythog esmwythâ;
o garchar pechod tyrfa fawr,
i glod dy ras, rhyddha.
Rho nerth i godi gyda thi,
rho ras i fyw yn well;
gad inni deimlo yn dy waith
nad yw ein cartre ‘mhell.
Ar fyd blinderus torred gwawr
fel gwawr y trydydd dydd;
doed heddiw dawel fryniau’r nef
yn glir i olwg ffydd.
ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 544)
PowerPoint