Os gofyn rhywun beth yw Duw,
atebwn ni mai cariad yw:
fe fflamiodd cariad Tri yn Un
yn rhyfedd at annheilwng ddyn.
Nid dim rhinweddau ynom ni
na dim a wnaed ar Galfarî
fu’n achos iddo garu dyn,
fe’i carodd er ei fwyn ei hun.
Fe’n carodd, ac fe’n câr o hyd,
ymhob rhyw drallod yn y byd;
a’r rhai a garodd ef un waith,
fe’u câr i dragwyddoldeb maith.
AZARIAH SHADRACH, 1774-1844
(Caneuon Ffydd 171)
PowerPoint