Os yw tegwch d’ŵyneb yma
yn rhoi myrdd i’th garu nawr,
beth a wna dy degwch hyfryd
yna’n nhragwyddoldeb mawr?
Nef y nefoedd
a’th ryfedda fyth heb drai.
Pa fath uchder fydd i’m cariad,
pa fath syndod y pryd hyn,
pryd y gwelwyf dy ogoniant
perffaith, llawn ar Seion fryn?
Anfeidroldeb
o bob tegwch maith yn un.
Pa feddyliau uwch eu deall
a gaf ynof fi fy hun
wrth ystyried bod y Duwdod
perffaith, pur a minnau’n un?
Dyma gwlwm
nad oes iaith a’i dyd i maes.
Cwlwm wnaed yn nhragwyddoldeb,
sicir, cadarn, mawr ei rym;
ni all myrddiwn o flynyddoedd
dorri hwn, na’i ddatod ddim:
gwna, fe bery
tra parhao Duw mewn bod.
WILLIAM WILLLAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 318, Y Llawlyfr Moliant Newydd: 526)