O’th flaen, O Dduw, ‘rwy’n dyfod
gan sefyll o hir-bell;
pechadur yw fy enw,
ni feddaf enw gwell;
trugaredd ‘rwy’n ei cheisio,
a’i cheisio eto wnaf,
trugaredd imi dyro,
‘rwy’n marw onis caf.
Pechadur wyf, mi welaf,
O Dduw, na allaf ddim;
‘rwy’n dlawd, ‘rwy’n frwnt, ‘rwy’n euog,
O bydd drugarog im;
‘rwy’n addef nad oes gennyf,
drwy ‘mywyd hyd fy medd,
o hyd ond gweiddi, “Pechais!”
Nid wyf yn haeddu hedd.
Mi glywais gynt fod Iesu,
a’i fod ef felly nawr,
yn derbyn publicanod
a phechaduriaid mawr;
O derbyn, Arglwydd, derbyn
fi hefyd gyda hwy,
a maddau’r holl anwiredd
heb gofio’r camwedd mwy.
THOMAS WILLIAM, 1761-1844
(Caneuon Ffydd 175)
PowerPoint