Pa fodd y traethwn ei ogoniant ef
a roes i’r ddaear olau clir y nef?
Ni all mesurau dynion ddweud pa faint
yw’r gras a’r rhin a gwerth y nefol fraint;
mae pob cyflawnder ynddo ef ei hun,
mae’n fwy na holl feddyliau gorau dyn:
moliannwn ef, Cynhaliwr cadarn yw,
y sanctaidd Iôr a’r digyfnewid Dduw.
Wrth droi ein hunain at y Duw sy’n Dad
cawn brofi’r heddwch sydd yn ddwfn fwynhad;
ef ydyw’r nerth sy’n fwy na’n gofyn ni,
yr hafan deg pan fyddo arwa’r lli;
mae cysgod inni yn ei gariad mawr
a diogelwch i holl deulu’r llawr:
moliannwn ef, Cynhaliwr cadarn yw,
y sanctaidd Iôr a’r digyfnewid Dduw.
Mae ei wirionedd yn dreftadaeth dda,
yn rym cynhaliol yn y trymaf pla;
pan ddaw acenion ei leferydd ef
cawn weld y ffordd yn agor tua thref;
bydd addewidion nerthol gair ein Duw
fel miwsig clychau’n torri ar ein clyw:
moliannwn ef, Cynhaliwr cadarn yw,
y sanctaidd Iôr a’r digyfnewid Dduw.
W RHYS NICHOLAS, 1914-96 © Richard E. Huws
(Caneuon Ffydd 133)
PowerPoint