logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pa Hyd y Cuddi Di? (Salm 13)

Pennill 1
O Arglwydd Dduw, down atat ti.
Pam cuddio wnei dy wedd?
Ein cri ddyrchafwn ac ar ein gliniau ‘r awn.
Pa hyd y cuddi di?

Pennill 2
Ein gwewyr sydd yn ein llesgau
Ac ofnau sydd o’n cylch
Trwy’n dagrau i’r nef, clyw di’n hym-biliau gwan.
Pa hyd y cuddi di?

Cytgan
Nes i’th ogoniant lenwi’n trem
Ac i’n ffydd droi’n olwg clir.
Nes it ddisychedu’n henaid hesb
Pa hyd y cuddi di?

Pennill 3
Ein holl elynion lawenhânt
A’r drwg teyrnasu wna.
Iôr, ‘rym di’n sigo ac yn diffygio’n llwyr.
Pa hyd y cuddi di?

Pennill 4
Ymddiried yn dy gariad wnawn.
Dy ras fydd i ni’n gân
A phob un gwawrddydd, dy drugareddau ddaw.
Pa hyd y cuddi di?

Pa Hyd y Cuddi Di? (Salm 13)
How Long , O Lord, How Long? (Psalm 13) (Matthew Carpenter, Lisa Clow, Brittany Born a David Zimmer)
Cyfieithiad awdurdodedig Susan Williams
© 2022 Sovereign Grace Praise (BMI) (Gwein. IntegratedRights.com)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • April 16, 2025