O paid ag ofni, dywed Duw
Rwy’n addo, gwnaf dy achub di
A galwaf ar dy enw’n glir
Fy eiddo wyt ti.
Pan fyddi’n mynd drwy’r dyfroedd dwfn
Mi fyddaf yno gyda thi;
Wrth groesi’r afon wyllt ei llif
Ni suddi di.
Pan fyddi’n mynd drwy fflamau’r tân
Ni chaiff eu gwres dy losgi di;
Ni chei dy ddifa f’annwyl un,
Dy Dduw wyf fi.
Mor werthfawr yn fy ngolwg wyt
Gwlad gyfan roddwn drosot ti;
Fy ngogoneddus, annwyl un
Fe’th garaf di.
I bedwar ban y byd yr awn
I’th gasglu yn fy mynwes i,
Mae f’enw arnat, fi a’th wnaeth;
Rwyf gyda thi.
Geiriau: Cass Meurig (addasiad o Eseia 43)
Tôn: Mil Harddach Wyt (tradd)