Pan anwyd Crist ym Methlehem dref
canodd angylion nef,
canu wnawn ninnau’n llawen ein llef
foliant i Faban Mair.
Canu wnawn ni, canu wnawn ni
foliant i Faban Mair,
canu wnawn ninnau’n llawen ein llef
foliant i Faban Mair.
Teithiodd y doethion dros bant a bryn
ar eu camelod gwyn,
gyda’r bugeiliaid rhoesant yn syn
foliant i Faban Mair.
Beth roddwn ni i drysor y crud,
blant pedwar ban y byd?
Canwn ein cân, a rhoddwn bob pryd
foliant i Faban Mair.
MYFI EVANS Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 475)
PowerPoint