Pan daena’r nos o’m cylch
ei chwrlid du yn fraw,
fe gilia’r arswyd wrth i mi
ymaflyd yn dy law.
Pan chwytha’r gwyntoedd oer
i fygwth fflam fy ffydd,
ar lwybyr gweddi gyda thi
caf nerth yn ôl y dydd.
Pan gyll holl foethau’r byd
eu swyn i gyd a’u blas,
mae swcwr, Arglwydd, ynot ti
a sylwedd yn dy ras.
Yn dy gymdeithas di
er dued yw yr awr,
mae rhin a gwawl y golau gwyn
yn ernes am y wawr.
T. R. JONES © E. M. Jones. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 675)
PowerPoint