Pan fwy’n myned drwy Iorddonen,
Angau creulon yn ei rym,
Aethost drwyddi gynt dy hunan,
Pam yr ofnanf bellach ddim?
Buddugoliaeth!
Gwna i mi weiddi yn y llif.
Ymddiriedaf yn dy allu,
Mawr yw’r gwaith a wnest erioed;
Ti gest angau, Ti gest uffern,
Ti gest Satan dan dy droed:
Pan Calfaria,
Nac aed hwnnw byth o’m cof.
William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 464)
PowerPoint