Pan glywir sŵn chwalu cadwynau o draw
a hedd yn teyrnasu lle cynt y bu braw,
fe wyddom fod yntau ar ymdaith o hyd,
yr hwn sy’n ddyhead cenhedloedd y byd.
Pan glywir y moliant yn dod dros y don
a’r weddi o’r carchar heb ddig dan y fron,
fe wyddom fod yntau ar ymdaith o hyd,
yr hwn sy’n ddyhead cenhedloedd y byd.
Mor dawel yw’r moliant a’r weddi’n ein tir,
a’r anghrist celwyddog yn atal y gwir:
tyrd atom yn fuan, tyrd atom mewn pryd,
yr hwn sy’n ddyhead cenhedloedd y byd.
Pan glywir yr utgorn yn seinio’n y nef
a chyrrau’r holl ddaear yn clywed ei lef,
dwg dithau, O Gymru, dy drysor i gyd
at Iesu, dyhead cenhedloedd y byd.
NOEL GIBBARD. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 845)
PowerPoint