Pan guddio’r nos y dydd,
A’r gân yn troi yn gri,
Cynlluniau dyn yn drysu ffydd,
O! Arglwydd cofia fi.
Pan ollwng cymyl prudd
Eu dafnau oer yn lli,
Pan ddeffry’r gwynt a’i nerthoedd cudd
O! Arglwydd cofia fi.
Ti gofiaist waelion byd,
Maddeuaist fyrdd di-ri’;
Dy ras sy’n fôr heb drai o hyd;
O! Arglwydd cofia fi.
Yn ing yr olaf awr,
Pan syrth y byd a’i fri
Fel dail yr hydref ar y llawr,
O! Arglwydd cofia fi.
Cernyw
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 15)
PowerPoint