Pan rwystrir ni gan bethau’r llawr
i weled ei ogoniant mawr,
gwyn fyd y pur o galon sydd
yn gweled Duw drwy lygaid ffydd.
Pan welir dynion balch eu bryd
yn ceisio ennill yr holl fyd,
gwyn fyd yr addfwyn, meddai ef,
sy’n etifeddion daer a nef.
Pan welir chwalu teulu’r Tad
gan ryfel gyda’i dwyll a’i frad,
gwyn fyd y rhai sy’n caru hedd
rhwng dyn a dyn, yn fwy na’r cledd.
Yn nyddiau’n tadau yn y tir
bu yma erlid ar y gwir,
gwyn oedd eu byd mewn storom gref,
cans eiddynt hwy oedd teyrnas nef.
D. GWYN EVANS, 1914-95 © G. I. Evans. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 239)
PowerPoint