Popeth gwerthfawr fu
yn fy mywyd i,
Popeth mae y byd
yn brwydro i’w gael,
Pethau’n elw fu,
‘nawr yn golled sydd;
Gwastraff yw i gyd ers ennill Crist.
Dy gael di, Iesu, gyda mi
Yw’r trysor gorau sydd.
Ti yw’m nod, ti yw’m rhan,
Fy llawenydd i a’m cân,
Ac fe’th garaf mwy.
Un dyhead sydd yn fy nghalon i –
Cael bod ynot ti, fy Arglwydd byw,
Heb gyfiawnder im
ond a ddaw drwy ffydd,
Cael dy ‘nabod di a’th weld ryw ddydd.
O, am brofi grym d’atgyfodiad di,
A chymdeithas bur dy boen a’th gur;
Cael fy llunio’n ôl
dy farwolaeth drud,
Yna byw am byth mewn nefol fyd.
Graham Kendrick (All I once held dear), cyf. Arfon Jones ©1993 Make Way Music
(Grym Mawl 2: 2)
PowerPoint