Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn,
lle mae Duw’n arlwyo gwledd,
lle mae’r awel yn sancteiddrwydd,
lle mae’r llwybrau oll yn hedd?
Hyfryd fore
y caf rodio’i phalmant aur.
Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn,
lle mae pawb yn llon eu cân,
neb yn flin ar fin afonydd
y breswylfa lonydd lân?
Gwaith a gorffwys
bellach wedi mynd yn un.
Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn,
lle caf nerth i fythol fyw
yng nghartrefle’r pererinion
hen dreftadaeth teulu Duw?
O na welwn
dyrau gwych y ddinas bell.
Iesu a’m dwg i’r ddinas gadarn,
derfydd crwydro’r anial maith,
canu wnaf y gainc anorffen
am fy nwyn i ben fy nhaith;
iachawdwriaeth
ydyw ei magwyrydd hi.
MOELWYN, 1866-1944
(Caneuon Ffydd 699)
PowerPoint