Pennill 1
Rwyf i wedi cario fy maich yn rhy hir
Ges i ddim fy nghreu i’w gario fy hun
Ac rwy’n clywed gwahoddiad i’w ollwng i gyd
Rwy’n deall nawr, rwy’n rhoi’r cyfan lawr
Gwn mod i d’angen Di
Corws
Fe redaf i freichiau
Y Tad, profi’i ras
Mae’r cuddio ‘di gorffen
Mae’r aros ar ben
Cael triniaeth ar ‘nghalon
I f’enaid gael ffrind
Rhedeg wnaf at y Tad
Drachefn a thrachefn
A thrachefn a thrachefn
Egwyl
O O O
Pennill 2
Fe welaist fy nghyflwr
Roedd dy gynllun mewn lle
Dy Fab i’m gwaredu
A dalodd y pris
Does gen i’m cyd-destun
I gariad o’r fath
Mae’n ormod i mi
Ei ddeall yn iawn
Ond gwn mod i d’angen Di
Corws
Egwyl
O O
Drachefn a thrachefn
A thrachefn a thrachefn
O O
(Drachefn a thrachefn)
Pont
Yr oeddwn yn d’olwg Di
Cyn i mi gymryd gwynt
(Mae) rhedeg i’th freichiau Di
Fel rhedeg o farw i fyw
Teimlaf ryw wefr (yn) ddwfn yn fy mron
Mae’th gariad yn galw nawr
Dof fel yr wyf, mae’th afael Di’n dynn
Gwn mod i d’angen Di
Corws (X2)
Rhedaf i’r Tad
Run to the Father (Cody Carnes, Matt Maher, Ran Jackson)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones
© Capitol CMG Paragon; Writer’s Roof Publishing; Be Essential Songs; I Am A Pilgrim Songs; Songs From Richmond Park
(Gwein. Capitol CMG Publishing, Essential Music Publishing LLC)
CCLI 7194066
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint