Rhown foliant o’r mwyaf
i Dduw y Goruchaf
am roi’i Fab anwylaf
yn blentyn i Fair,
i gymryd ein natur
a’n dyled a’n dolur
i’n gwared o’n gwewyr anniwair.
Fe gymerth ein natur,
fe’n gwnaeth iddo’n frodyr,
fe ddygodd ein dolur
gan oddef yn dost;
fe wnaeth heddwch rhyngom
a’i Dad a ddigiasom,
fe lwyr dalodd drosom y fawrgost.
Fe’n gwnaeth ni, blant dynion,
yn ferched, yn feibion,
i’w Dad yn ‘tifeddion
o’r deyrnas sydd fry,
i fyw yn ei feddiant
mewn nefol ogoniant
er mawrglod a moliant i’r Iesu.
Gwahoddwch y tlodion
a’r clwyfus a’r cleifion
a’r gweiniaid a’r gweddwon
â chroeso i’ch gwledd;
o barch i’r Mesïas
a’n dwg ni i’w deyrnas
i gadw gŵyl addas heb ddiwedd.
RHYS PRICHARD, 1579?-1644
(Caneuon Ffydd 469)
PowerPoint