logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rhy ryfeddol

Pennill 1
Ti ydy awdur ’mywyd i
Rwyt ti o ’mlaen i a’r tu ôl – i mi
Cyn cymryd gwynt, tu hwnt i’m bedd
Rwyt ti gyda mi bob cam
I dragwyddoldeb

Corws
Dim lle i guddio, nac i ffoi
Y mae‘r gwyll yn olau nawr
O’r mannau isaf i foliant fry

Rwyt yn deilwng
Aruthrol gariad, sut all hyn fod?
Rhy ryfeddol yw i mi
Y cyfan allaf innau ddweud –
Rwyt yn deilwng! O!

Pennill 2
Chwilia ’nghalon, profa fi
Treiddia fy mhryderon i, O!
Gwêl y gwendid ynof fi a’m harwain yn y ffordd
sy’n dragwyddol

Corws

Pont
Fe ffurfiaist fi yng nghroth fy mam
Ti’n gweld fy ffrâm, fy ngwe a’m cnawd
O! Yn rhyfedd y’m gwnaed
Mae’n ormod im, ni allaf ddweud,
Rwyt ti’n fy ngweld yn llwyr
a ’ngharu i
O! Rhyfeddol Ras

Corws

Rhy ryfeddol
Far too wonderful (Sean Carter, Shane Barnard)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© 2015 Songs From Wellhouse (Gwein. gan SHOUT! Music Publishing UK)
Tent Peg Music (Gwein. gan Song Solutions www.songsolutions.org)
CCLI # 7153664

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • May 10, 2023