Rhyddid sydd i gaethion byd;
A gwir oleuni;
Gogoniant yn lle lludw,
A mantell hardd o fawl.
Hyder yn lle’r c’wilydd sydd;
Cysur yn lle galar.
Eneiniaf chi ag olew,
Symudaf eich holl boen.
Ac fe roddaf wir foliant;
Mawl yn lle tristwch ac ofn;
A mantell gan Dduw yn lle galar a th’wyllwch du.
Nid blinder fydd dy enw mwy,
na, nid digalondid.
Fe ddeuthum i’th gysuro
Daeth blwyddyn ffafr ein Duw.
(Grym Mawl 2: 29)
Jonny Baker: Freedom from captivity, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
© 1996 Proost/Serious Music UK