logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rwy’n chwennych gweld ei degwch ef

‘Rwy’n chwennych gweld ei degwch ef
sy uwch popeth is y rhod,
na welodd lluoedd nefoedd bur
gyffelyb iddo erioed.

Efe yw ffynnon fawr pob dawn,
gwraidd holl ogoniant dyn;
a rhyw drysorau fel y môr
a guddiwyd ynddo’i hun.

‘Rwyf yn hiraethu am gael prawf
o’r maith bleserau sy
yn cael eu hyfed, heb ddim trai,
gan yr angylion fry.

Fe’m ganwyd i lawenydd uwch
nag sy ‘mhleserau’r llawr,
i gariad dwyfol, gwleddoedd pur
angylion nefoedd fawr.

O pam na chaf fi ddechrau nawr
fy nefoedd yn y byd,
a threulio ‘mywyd mewn mwynhad
o’th gariad gwerthfawr, drud?

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 295; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 66)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 4, 2015