‘Rwy’n dewis Iesu a’i farwol glwy’
yn Frawd a Phriod imi mwy;
ef yn Arweinydd, ef yn Ben,
i’m dwyn o’r byd i’r nefoedd wen.
Wel dyma un, O dwedwch ble
y gwelir arall fel efe
a bery’n ffyddlon im o hyd
ymhob rhyw drallod yn y byd?
Pwy wrendy riddfan f’enaid gwan?
Pwy’m cwyd o’m holl ofidiau i’r lan?
Pwy garia ‘maich fel Brenin ne’?
Pwy gydymdeimla fel efe?
Wel ynddo ymffrostiaf innau mwy;
fy holl elynion, dwedwch, pwy
o’ch cewri cedyrn, mawr eu rhi’,
all glwyfo mwy f’Anwylyd i?
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 305; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 178)
PowerPoint