Pennill 1
Rwy’n dewis moli a phlygu lawr
Er bod poen yn yr offrwm hwn
Fe’i hildiaf nawr
Yma’n y frwydr, ac amau’n llu
Er bod f’enaid i ar chwâl
Dy ddewis wnaf
Corws
Ac mi folaf drwy y fflamau
Drwy y storm a thrwy y lli’
Does ’na ddim byd allai byth â dwyn fy nghân
Yn y dyffryn, rwyt yn deilwng
Pan mae’n anodd, rwyt yn dda
Ti fydd testun fy nghân dragwyddol i
Pennill 2
Codaf fy allor, yma yn awr
Yng nghanol y nos dywyllaf
Bydd ar dân
Rwyt ti yn berffaith, beth bynnag ddaw
Mewn llawenydd neu ddioddef
Canaf i
CORWS
Pont
Pan mae’r gelyn yn fy nghyhuddo
Codaf foliant
Pan fo’m byd yn disgyn lawr
Rwy’n codi moliant fry
Nes i’r wawr rwygo’r tywyllwch
Codaf foliant
Tag
Rwy’n dewis moli
Dy ddewis nawr
PONT
Rwy’n dewis moli
Dy ddewis nawr
CORWS
PONT
Tag
Rwy’n dewis moli
Dy ddewis nawr
Dy ddewis nawr
Rwy’n Dewis Moli
I Choose to Worship (Gareth Gilkeson / Chris Llewellyn)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© Capitol CMG Paragon (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
Rend Family Music (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint